Defaid Soaigh Llywio
Bridiau o anifeiliaid sy'n tarddu o'r AlbanBridiau o ddefaidYnysoedd Allanol Heledd ddefaidSaesnegSoaighSant KildaYnysoedd Allanol Heleddyr AlbanNeolithigmouflonMôr CanoldirurialOes yr EfyddLlychlynwyrYnys LlanddwynYnys Môn Defaid Soaigh Oddi ar Wicipedia Jump to navigation Jump to search Dafad Soaigh Brîd o ddefaid ( Ovis aries ) yw Defaid Soaigh (Saesneg: Soay sheep ). Maent yn ddidgynyddion o boblogaeth o ddefaid ar ynys Soaigh, un o ynysoedd Sant Kilda yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban. Credir fod y defaid hyn yn esiampl o ddefaid cyntefig, efallai yn debyg i'r defaid a gedwid yn y cyfnod Neolithig. Maent yn debyg i ddefaid mouflon o amgych y Môr Canoldir a defaid urial Canolbarth Asia. Mae ansicrwydd sut y daethant i ynys Soaigh; cred rhai eu bod yno ers Oes yr Efydd, eraill mai'r Llychlynwyr a ddaeth a hwy yno. Maent yn llai na defaid arferol, ac mae eu lliw yn amrywio; gallant fod yn frown tywyll ...