Bara Cynnwys Geirdarddiad | Mathau o fara | Gweler hefyd | Cyfeiriadau | Llywiogeiriadur.ac.uk;
Bara
fwyddoesblawddŵrhalenburumamaethyddiaethFfraincburumCymunCristnogolcemegolionffrwythaucnausaimbara brithpwdin baratostchwedl Llyn y Fan FachFrythonegGeltegHen GernywegLlydawegHen WyddelegCymraegLladin
Bara
Jump to navigation
Jump to search
Gwneir bara, sy'n fwyd poblogaidd iawn, o does wedi'i bobi. Mae toes yn cynnwys blawd a dŵr, ac yn aml halen, a burum i godi'r bara. Mae llawer o wahanol fathau o fara o lawer o wledydd gwahanol. Bwyteir bara ers cychwyn amaethyddiaeth, filoedd o flynyddoedd yn ôl.
Gelwir y math arferol yn "dorth" – telpyn cymharol fawr – a cheir torthenni wedi'u gwneud o flawd mâl ac o flawd cyflawn. Ceir mathau llai hefyd, fel rholiau fel y Brioche a gall eu gwead (texture), eu blas, eu maint a'u cynnwys amrywio'n fawr. Ceir mathau hir hefyd, fel y Baguette o Ffrainc, sydd tua 65 centimetr (26 mod) o hyd. Cymysgir y blawd a'r dŵr yn does; defnyddir burum neu bowdr codi fel arfer i godi'r toes, er bod rhai mathau'n ddi-furum (bara croyw). Defnyddir bara croyw mewn seremoniau crefyddol fel y Cymun Cristnogol a cheir nifer o ymadroddion am fara yn y Beibl: "Nid ar fara'n unig y bydd byw dyn", neu "wrth chwys dy wyneb y bwytei dy fara". Mae nifer o dechnegau modern o wella'r bara ar gyfer ei werthu gan gynnwys ei roi dan bwysau eithriadol i greu'r swigod neu ychwanegu cemegolion i wella'r blas, ei wead, ei liw neu ei brisyrfio. Ychwanegir ffrwythau, cnau a saim ar adegau e.e. bara brith.
Defnyddir briwsion bara i wneud stwffin a gellir pobi tafellau o fara i wneud pwdin bara. Y dull amlaf o'i wyta yn y Gorllewin yw ar ffurf brechdanau, sef tafelli o fara, gydag jam, menyn, gaws neu enllyn arall rhwng y ddau damed o fara. O grasu'r bara, ceir tost. Sonir am grasu bara yn chwedl Llyn y Fan Fach: "Cras dy fara, nid hawdd fy nala".
Yn ffigyrol, caiff y gair ei ddefnyddio am fwyd, pryd o fwyd, cynhaliaeth, ffon cynhaliaeth neu fywoliaeth person.
Cynnwys
1 Geirdarddiad
2 Mathau o fara
3 Gweler hefyd
4 Cyfeiriadau
Geirdarddiad |
Daw'r gair "bara" o'r Frythoneg "baragi" a'r Gelteg "baregi", ac fe'i ceir yn yr Hen Gernyweg a'r Llydaweg 'bara', Hen Wyddeleg: "bairgen". "Bara" hefyd yw'r gair lluosog.[1]
Mae'r cofnod Cymraeg cynharaf i'w gael yn:
13g: Llyfr Iorwerth 64: "Sef mal e rennyr e punt honno: chue ugeynt e’r bara a thry ugeynt e'r llyn". Ac eto: "chue thorth arrugeynt o'r bara goreu".
14g: Llyfr Iorwerth 69: "deudec torth o vara bychein (tenuibus panibus), a dwy torth o vara mawr peilleit".
1346: Llyfr Iorwerth 22: "Paham y gwnneir y gorff ef or bara. Ae waet or gwin".
Mae'r gair "torth", ar y llaw arall, yn fenthyciad o'r Lladin, "torta", ac fe'i ceir mewn Cernyweg Canol 'torth' ac mewn Llydaweg Canol "torz" a Gwyddeleg Canol "tort".
Mathau o fara |
- Bara Mate
- Pan oeddwn yn blentyn yn Llwyncelyn, Brynberian roedd fy mam yn pobi Bara Mate. Roedd yn talu dyn i dorri'r mate (y donnen o fawn ar wyneb y gors) ar y mynydd, yna fyddai yn eu codi yn sawl crit i'w sychu. Ar ôl iddynt sychu fe fyddent yn cael eu cludo i'r ydlan a'u gvneud yn das a'u toi â brwyn. Pan fyddai fy mam yn mynd i bobi byddai yn cymryd pump neu chwe maten o'r das a'u rhoi at ei gilydd a'u cynnau. Ar ôl iddynt gochi byddai yn eu hagor er mwyn dodi'r ffwrn yn y canol, yna rhoi'r dorth yn y ffwrn a'i chau ā'r clawr a dodi'r mate nol drosti. Dyna'r bara gorau brofais i erioed. Roedd fy mam yn pobi tarten yr un modd.
Tybed beth fyddai gair y gogledd am mate (matiau), sef y donnen o fawn ar wyneb y gors. [2]
Gweler hefyd |
- Coginio yng Nghymru
- Teisen
- Melysfwyd
- Brecwast
Cyfeiriadau |
↑ geiriadur.ac.uk; Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC) adalwyd 6 Mawrth 2016
↑ Mrs Irene Davies, Maenhir, Blaenffos (Papur Bro Clebran 1990)
gyfryngau sy'n berthnasol i:
yn Wiciadur.
Categori:
- Bara
(window.RLQ=window.RLQ||[]).push(function()mw.config.set("wgPageParseReport":"limitreport":"cputime":"0.060","walltime":"0.085","ppvisitednodes":"value":150,"limit":1000000,"ppgeneratednodes":"value":0,"limit":1500000,"postexpandincludesize":"value":1105,"limit":2097152,"templateargumentsize":"value":50,"limit":2097152,"expansiondepth":"value":7,"limit":40,"expensivefunctioncount":"value":0,"limit":500,"unstrip-depth":"value":0,"limit":20,"unstrip-size":"value":669,"limit":5000000,"entityaccesscount":"value":1,"limit":400,"timingprofile":["100.00% 41.600 1 -total"," 82.87% 34.472 1 Nodyn:CominCat"," 12.67% 5.269 1 Nodyn:Commons"," 10.63% 4.422 1 Nodyn:Cyfeiriadau"," 6.13% 2.549 1 Nodyn:Wiciadur"],"scribunto":"limitreport-timeusage":"value":"0.003","limit":"10.000","limitreport-memusage":"value":519502,"limit":52428800,"cachereport":"origin":"mw1345","timestamp":"20190430215741","ttl":2592000,"transientcontent":false);mw.config.set("wgBackendResponseTime":158,"wgHostname":"mw1273"););